search for events

Rainbow Pooch Pride: Getting Pawsitively Pride-Ready / Rainbow Pooch Pride: Digwyddiadau i chi a’r ci

In-Person
JUL 5

Sunday, July 5

12:30 PM - 3:00 PM local time

Log in to RSVP to this event

About

Join us for an educational workshop designed to help you and your Rainbow Pooch prepare for a safe, positive and enjoyable Pride experience!

Pride events can be vibrant, exciting and affirming spaces, but they can also be overwhelming environments filled with crowds, noise and unfamiliar experiences. This interactive session will help you better understand your dog's needs, build practical handling skills and develop confidence for navigating pride celebrations together. This workshop is open to LGBTQIA+ dog owners, dog lovers, and people interested in learning more about responsible dog participation at pride events.

What to Expect

Understand Your Dog's Wellbeing

Dogs communicate with us constantly, but their signals are often subtle. Learn how to recognise signs of distress, overwhelm and heat-related stress before they escalate, helping you advocate for your dog in busy environments. We will explore canine body language, the warning signs of heatstroke, practical prevention strategies and what to do if you think your dog may be struggling. By understanding both your dog's emotional and physical wellbeing, you'll be better equipped to keep them safe, comfortable and happy throughout pride celebrations.

Practical Pride Skills & Building Confidence

Discover simple training exercises that can make a big difference when navigating crowds. We will cover exercises such as teaching your dog to move into various positions using simple hand targeting techniques, and building focus and engagement in busy environments. These skills can help create a clearer line of communication between you and your dog when distractions are high. We will also learn how to create positive exposure to crowds, noise and novel environments to help build your dog's confidence over time. Thoughtful socialisation and training can support your dog in developing the resilience needed for larger public events.

Support Your Dog Through You

We will close with a human-focused discussion about the emotional realities of attending Pride with your dog. From managing expectations and recognising when to leave early, to understanding the emotional responsibility of caring for a dog in demanding environments, we will explore self-care strategies that help both you and your Rainbow Pooch have the best possible experience.

Booking

Dogs attend for FREE but we invite a minimum donation of £3 per person which includes two rounds of tea/coffee and plenty of useful dog training tips.

We've also established a Discretionary Fund enabling individuals facing financial barriers to attend for FREE. Please select 'Discretionary' at point of sale.

Venue Details

YMa, Pontypridd

YMa is a re-imagining of the Pontypridd YMCA building which was opened in 1910 on the main high street of Pontypridd Town Centre. Pontypridd YMCA and Artis Community Cymuned have formed a partnership to deliver a new vision for the redeveloped building having secured funding from Arts Council of Wales and Rhondda Cynon Taf County Borough Council, committed to delivering programs with communities to be a place for creativity, growth, wellbeing and prosperity. Our workshop will be in the Moondance Studio.

Directions

YMa is located in the heart of Pontypridd town centre on Taff Street, CF37 4TS. Please allow extra travel time if travelling by car as traffic can be busy around the town centre, particularly during peak times. Please note: there is no private parking at YMa but there are a few carpark options nearby. Public transport is readily available into Pontypridd via bus and train, with the bus station being a 2 minute walk away and the train station being a 10 minute walk away.

Parking

Gas Road Car Park : Council run car pack that is 2 minutes walk away and located just across the road from YMa. There is a maximum stay of 4 hours, and parking is free after 3pm. Disabled parking spaces available. Postcode is CF37 4TD.

Goods Yard Car Park : Council run car park that is 4 minutes walk away which is adjacent to and behind the Bowls Centre. There is no maximum stay, and parking is free after 3pm. Disabled parking spaces available. Postcode is CF37 2DP.

NCP Goods Yard Car Park : Privately managed car park that is about a 4 minute walk from the Yma and is accessible 24-hours daily. Parking can be paid cashless via the NCP App. Disabled parking spaces available. Postcode is CF37 2DS.

Frequently Asked Questions

Q: Can I bring my dog with me?

A: We encourage you to bring your dog along if you feel it is an environment they would cope well in. We recommend taking them for a good walk in a nearby park beforehand with plenty of opportunities to sniff and explore to help your dog settle during the session. Please bring water, treats and a settle mat or blanket if you have one. Dogs should remain on lead throughout the event.

Q: My dog is on the banned dog breeds list. Can they come?

A: The following banned breeds cannot attend unless you have a you are allowed to join if you have a Certificate of Exemption issued by the court and proof of third party public liability insurance: Pit Bull Terrier, Japanese Tosa, Dogo Argentino, Fila Brasileiro, and XL Bully. Please bring them along as you will be asked to present it. For further guidance visit: https://www.gov.uk/control-dog-public/banned-dogs.

Q: Does my dog need to be muzzled?

A: It is mandatory for these breeds to be muzzled and on lead at all times: Pit Bull Terrier, Japanese Tosa, Dogo Argentino, Fila Brasileiro, and XL Bully. If your dog's breed is not listed, you are not legally required to muzzle your dog. If your dog is regularly muzzled and/or benefits from being muzzled, they are more than welcome to be!

This event is only open to individuals aged 18 years plus who identify as LGBTQIA+. Rainbow Pooch Pride is a trans-inclusive organisation. We celebrate and support our trans and gender-diverse community. We have a zero-tolerance policy for discrimination or disrespect. This is a space where everyone deserves to feel safe and seen.

Allies are welcome to join as volunteers where training in LGBTQIA+ allyship will be provided. For more information email hello@rainbowpoochpride.com.

This event is funded by the National Lottery Community Fund.

This event is delivered in the English language.


Ymunwch â ni am weithdy addysgol sydd â’r nod o'ch helpu chi a'ch ci i baratoi ar gyfer profiad Pride diogel, cadarnhaol a phleserus!

Gall digwyddiadau Pride fod yn fannau bywiog, cyffrous a chadarnhaol, ond gallant hefyd fod yn amgylcheddau llethol, yn llawn torfeydd, sŵn a phrofiadau anghyfarwydd. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich helpu i ddeall anghenion eich ci yn well, adeiladu sgiliau ymarferol a datblygu hyder o ran mwynhau dathliadau Pride gyda'ch gilydd. Mae'r gweithdy hwn yn agored i bobl LHDTCRhA+, sy’n berchen neu’n dwlu ar gŵn, a phobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ffyrdd cyfrifol o ofalu am gŵn yn ystod digwyddiadau Pride.

Beth i'w ddisgwyl?

Deall lles eich ci

Mae cŵn yn cyfathrebu â ni drwy’r amser, ond mewn ffordd gynnil iawn yn aml. Byddwch yn dysgu sut i adnabod arwyddion mewn da bryd bod eich ci’n dechrau teimlo’n anghyffyrddus, wedi ei orlethu neu o dan straen oherwydd gwres. Bydd hyn yn eich helpu i ofalu am eich ci mewn amgylcheddau prysur. Byddwn yn archwilio iaith corff cŵn, arwyddion cynnar o dwymyn haul, strategaethau atal ymarferol a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl y gallai eich ci fod yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Trwy ddeall lles emosiynol a chorfforol eich ci, byddwch yn gallu cadw eich ci yn ddiogel, yn gyffyrddus ac yn hapus trwy gydol dathliadau Pride.

Sgiliau Pride Ymarferol a Meithrin Hyder

Byddwch yn cal gwybod am ymarferion hyfforddi syml all wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch mewn torf. Byddwn yn cyflwyno ymarferion a thechnegau llaw syml i ofalu am eich ci a pharhau â ffocws ac ymgysylltiad mewn amgylcheddau prysur. Gall y sgiliau hyn helpu i greu llinell gyfathrebu gliriach rhyngoch chi a'ch ci pan fydd llawer o bethau’n tynnu ei sylw. Byddwn hefyd yn dysgu sut i gyflwyno eich ci mewn ffordd gadarnhaol i dorfeydd, synau ac amgylcheddau newydd i helpu cynyddu hyder eich ci dros amser. Gall cymdeithasu a hyfforddiant gofalus helpu’ch ci i ddatblygu'r gwytnwch sydd ei angen ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mwy o faint.

**Helpu eich hun i helpu eich ci **

Byddwn yn cloi gyda thrafodaeth fydd â’i ffocws ar y realiti emosiynol i chi o fynychu Pride gyda'ch ci. O reoli disgwyliadau a deall os bydd angen gadael yn gynnar, i ddeall y cyfrifoldeb emosiynol o ofalu am gi mewn amgylcheddau heriol, byddwn yn archwilio strategaethau hunan-ofal fydd yn eich helpu chi a'ch ci i gael y profiad gorau posibl.

Cadw lle

Mae cŵn yn dod AM DDIM ond rydym yn gwahodd rhodd o £3 y pen o leiaf i bobl , fydd yn cynnwys dwy rownd o de/coffi yn ogystal â’r hyfforddiant defnyddiol y byddwn yn ei gynnig.

Rydym hefyd wedi sefydlu Cronfa Ddewisol sy'n galluogi unigolion sy'n wynebu rhwystrau ariannol i fynychu AM DDIM. Dewiswch 'Dewisol' yn y pwynt gwerthu.

Manylion y Lleoliad

YMa, Pontypridd

Adeilad YMCA Pontypridd a agorwyd ym 1910 ar brif stryd fawr canol tref Pontypridd yw YMa, wedi’i ail-ddychmygu i ateb gofynion heddiw. Mae YMCA Pontypridd ac Artis Community Cymuned wedi ffurfio partneriaeth i wireddu gweledigaeth newydd ar gyfer yr adeilad sydd wedi'i ailddatblygu ar ôl sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae ymrwymiad cryf i gyflwyno rhaglenni ar y cyd â chymunedau a chael lle ar gyfer creadigrwydd, twf, lles a ffyniant. Bydd ein gweithdy yn Stiwdio Moondance.

Cyfarwyddiadau

Mae YMa yng nghanol tref Pontypridd ar Stryd Taf, CF37 4TS. Neilltuwch amser teithio ychwanegol os ydych chi'n teithio mewn car gan y gall traffig fod yn brysur yng nghanol y dref, yn enwedig yn ystod yr oriau brig. Sylwer: nid oes parcio preifat yn YMa ond mae opsiynau parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn rhwydd i Bontypridd ar fws a thrên, gyda'r orsaf fysiau 2 funud ar droed i ffwrdd a'r orsaf drenau 10 munud ar droed.

Parcio

Maes Parcio Gas Road : Maes parcio dan ofal y Cyngor sydd 2 funud i ffwrdd ar droed, gyferbyn ag YMa. Dim ond hyd at 4 awr y gallwch barcio, ac mae am ddim ar ôl 3pm. Mae mannau parcio i'r anabl ar gael. Y cod post yw CF37 4TD.

Maes Parcio Goods Yard : Maes parcio dan ofal y Cyngor sydd 4 munud i ffwrdd ar droed i ffwrdd, y tu ôl i'r Ganolfan Fowlio. Nid oes cyfyngiad ar faint o amser y gallwch adael eich car yno, ac mae parcio am ddim ar ôl 3pm. Mae mannau parcio i'r anabl ar gael. Y cod post yw CF37 2DP.

Maes Parcio NCP Goods Yard : Maes parcio sy’n cael ei reoli’n breifat ac sydd tua 4 munud ar droed o YMa ac sy'n hygyrch 24 awr y dydd. Gellir talu am barcio heb ddefnyddio arian parod drwy Ap yr NCP. Mae mannau parcio i'r anabl ar gael. Y cod post yw CF37 2DS.

Cwestiynau cyffredin

C: Allai ddod â fy nghi gyda mi?

A: Rydym yn eich annog i ddod â'ch ci gyda chi os ydych chi'n teimlo y bydd yn gallu ymdopi’n dda â’r amgylchedd. Rydym yn argymell eich bod yn mynd â’r ci am dro mewn parc cyfagos ymlaen llaw gyda digon o gyfleoedd i arogli ac archwilio i helpu'ch ci i setlo yn ystod y sesiwn. Dewch â dŵr, danteithion a mat neu flanced setlo os oes gennych un. Dylai cŵn aros ar dennyn trwy gydol y digwyddiad.

C: Mae fy nghi ar y rhestr o fridiau cŵn gwaharddedig. All e ddod?

A: Ni all y bridiau gwaharddedig canlynol fynychu oni bai bod gennych Dystysgrif Eithrio gan lys a phrawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti: Daeargwn Pit Bull, Tosa Japaneaidd, Dogo Argentino, Fila Brasileiro, ac XL Bully. Dewch â’r ddogfennaeth gyda chi a bydd angen eu dangos. I gael arweiniad pellach ewch i: https://www.gov.uk/control-dog-public/banned-dogs.

C: Fydd angen penffrwyn ar fy nghi?

A: Mae'n orfodol i'r bridiau hyn fod â phenffrwyn ac ar dennyn bob amser: Daeargwn Pit Bull, Tosa Japaneaidd, Dogo Argentino, Fila Brasileiro, ac XL Bully. Os nad yw brîd eich ci wedi'i restru, nid oes gofyniad cyfreithiol i chi ddefnyddio penffrwyn gyda’ch ci. Os yw'ch ci yn defnyddio penffrwyn yn rheolaidd a/neu yn elwa o fod â phenffrwyn, mae croeso i chi ei ddefnyddio!

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i unigolion 18 mlwydd oed a throsodd sy'n nodi fel LHDTCIA+ yn unig. Mae Rainbow Pooch Pride yn sefydliad traws-gynhwysol. Rydyn ni’n dathlu ac yn cefnogi ein cymuned drawsrywiol a rhywedd-amrywiol. Mae gennym bolisi o beidio goddef unrhyw wahaniaethu neu ddiffyg parch. Mae hwn yn ofod lle mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gweld.

Mae croeso i gynghreiriaid ymuno fel gwirfoddolwyr lle bydd hyfforddiant mewn cefnogi LHDTCIA+ yn cael ei ddarparu. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch hello@rainbowpoochpride.com.

Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyflwynir y digwyddiad hwn yn yr iaith Saesneg.